2 Dywedais wrth yr ARGLWYDD,“Ti ydy fy Meistr i;mae fy lles i yn dibynnu arnat ti.”
3 Y bobl dduwiol yn y wlad ydy fy arwyr,dw i wrth fy modd gyda nhw.
4 Ond bydd y rhai sy'n dilyn duwiau eraillyn cael llwyth o drafferthion!Dw i eisiau dim i'w wneud â'u hoffrymau o waed.Dw i ddim am eu henwi nhw hyd yn oed!
5 Ti, ARGLWYDD, ydy'r un dw i eisiau.Mae fy nyfodol i yn dy law di.
6 Rwyt ti wedi rhoi tir da i mi;mae gen i etifeddiaeth hyfryd.
7 Bendithiaf yr ARGLWYDD am fy arwain i;ac am siarad gyda mi yn y nos.
8 Dw i mor ymwybodol fod yr ARGLWYDD gyda mi.Mae'n sefyll wrth fy ochr, a fydd dim byd yn fy ysgwyd.