1 O ARGLWYDD, dw i'n gofyn am gyfiawnder.Gwranda arna i'n galw arnat ti.Clyw fy ngweddi,sy'n gwbl ddidwyll.
2 Ti sy'n gallu rhoi cyfiawnder i mi.Mae dy lygaid yn gweld y gwir.
3 Rwyt wedi dod ata i yn y nos, chwilio fy meddyliau,fy mhwyso a'm mesur a chael dim byd o'i le.Dw i'n benderfynol o beidio dweud dim i dy dramgwyddo di.
4 Dw i'n gweld beth mae pobl eraill yn ei wneud,ond dw i wedi cadw at beth rwyt ti'n ddweud,ac wedi cadw draw o ffyrdd lladron.
5 Dw i wedi dilyn dy lwybrau di,a heb grwydro oddi ar y ffordd o gwbl.