4 Dw i'n gweld beth mae pobl eraill yn ei wneud,ond dw i wedi cadw at beth rwyt ti'n ddweud,ac wedi cadw draw o ffyrdd lladron.
5 Dw i wedi dilyn dy lwybrau di,a heb grwydro oddi ar y ffordd o gwbl.
6 Dw i'n galw arnat ti,achos byddi di'n ateb, O Dduw.Gwranda arna i.Clyw beth dw i'n ddweud.
7 Dangos mor ffyddlon wyt tidrwy wneud pethau rhyfeddol!Ti sy'n gallu achub y rhai sy'n troi atati'w hamddiffyn rhag yr ymosodwyr.
8 Amddiffyn fi fel cannwyll dy lygad.Cuddia fi dan gysgod dy adenydd.
9 Cuddia fi oddi wrth y rhai drwg sy'n ymosod arna i;y gelynion o'm cwmpas sydd eisiau fy lladd.
10 Maen nhw'n gwbl ddidrugaredd!Maen nhw mor falch wrth gega!