7 Dangos mor ffyddlon wyt tidrwy wneud pethau rhyfeddol!Ti sy'n gallu achub y rhai sy'n troi atati'w hamddiffyn rhag yr ymosodwyr.
8 Amddiffyn fi fel cannwyll dy lygad.Cuddia fi dan gysgod dy adenydd.
9 Cuddia fi oddi wrth y rhai drwg sy'n ymosod arna i;y gelynion o'm cwmpas sydd eisiau fy lladd.
10 Maen nhw'n gwbl ddidrugaredd!Maen nhw mor falch wrth gega!
11 Maen nhw wedi fy amgylchynu i,ac maen nhw am fy mwrw i'r llawr.
12 Maen nhw fel llew yn edrych am ysglyfaeth,neu lew ifanc yn llechu o'r golwg.
13 Cod, ARGLWYDD!Dos allan yn eu herbyn.Taro nhw i lawr gyda dy gleddyf!Achub fi rhag y rhai drwg;