1 Dw i'n dy garu di, ARGLWYDD;ti sy'n rhoi nerth i mi.
2 Mae'r ARGLWYDD fel craig i mi,yn gastell ac yn achubwr.Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani;yn darian, yn gryfder ac yn hafan ddiogel.
3 Gelwais ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu ei foli,ac achubodd fi oddi wrth fy ngelynion.
4 Ro'n i'n boddi dan donnau marwolaeth;roedd llifogydd dinistr yn fy llethu.
5 Roedd rhaffau byd y meirw o'm cwmpas;a maglau marwolaeth o'm blaen.