11 Gwisgodd dywyllwch fel gorchudd drosto –cymylau duon stormus;a gwnaeth gymylau trwchus yr awyryn ffau o'i gwmpas.
12 Roedd golau disglair o'i flaen;saethodd mellt o'r cymylau,cenllysg a marwor tanllyd.
13 Yna taranodd yr ARGLWYDD yn yr awyr –sŵn llais y Goruchaf yn galw.
14 Taflodd ei saethau a chwalu'r gelyn;roedd ei folltau mellt yn eu gyrru ar ffo.
15 Daeth gwely'r môr i'r golwg;ac roedd sylfeini'r ddaear yn noethwrth i ti ruo, O ARGLWYDD,a chwythu anadl o dy ffroenau.
16 Estynnodd i lawr o'r ucheldera gafael ynof fi;tynnodd fi allan o'r dŵr dwfn.
17 Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig,a'r rhai sy'n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi.