17 Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig,a'r rhai sy'n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi.
18 Dyma nhw'n ymosod pan roeddwn mewn helbul,ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i.
19 Daeth â fi allan i ryddid!Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi.
20 Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi.Dw i wedi byw'n gyfiawn;mae fy nwylo'n lânac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi.
21 Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon,heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg.
22 Dw i wedi cadw ei ddeddfau'n ofalus;dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau.
23 Dw i wedi bod yn ddi-faiac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn.