21 Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon,heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg.
22 Dw i wedi cadw ei ddeddfau'n ofalus;dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau.
23 Dw i wedi bod yn ddi-faiac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn.
24 Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi.Dw i wedi byw'n gyfiawn,ac mae e wedi gweld bod fy nwylo'n lân.
25 Ti'n ffyddlon i'r rhai sy'n ffyddlon;ac yn deg â'r rhai di-euog.
26 Mae'r rhai di-fai yn dy brofi'n ddi-fai,ond rwyt ti'n fwy craff na'r rhai anonest.
27 Ti'n achub pobl sy'n dioddef,ond yn torri crib y rhai balch.