23 Dw i wedi bod yn ddi-faiac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn.
24 Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi.Dw i wedi byw'n gyfiawn,ac mae e wedi gweld bod fy nwylo'n lân.
25 Ti'n ffyddlon i'r rhai sy'n ffyddlon;ac yn deg â'r rhai di-euog.
26 Mae'r rhai di-fai yn dy brofi'n ddi-fai,ond rwyt ti'n fwy craff na'r rhai anonest.
27 Ti'n achub pobl sy'n dioddef,ond yn torri crib y rhai balch.
28 Ie, ti sy'n goleuo fy lamp, o ARGLWYDD;fy Nuw sy'n rhoi golau i mi yn y tywyllwch.
29 Gyda ti gallaf ruthro allan i'r frwydr;gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw!