33 Mae'n rhoi coesau fel carw i mi;fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel.
34 Dysgodd fi sut i ymladd –dw i'n gallu plygu bwa o bres!
35 Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian;mae dy law gref yn fy nghynnal.Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo.
36 Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaena wnes i ddim baglu.
37 Es ar ôl fy ngelynion, a'u dal nhw;wnes i ddim troi'n ôl nes roedden nhw wedi darfod.
38 Dyma fi'n eu taro nhw i lawr,nes eu bod yn methu codi;roeddwn i'n eu sathru nhw dan draed.
39 Ti roddodd y nerth i mi ymladd;ti wnaeth i'r gelyn blygu o'm blaen.