38 Dyma fi'n eu taro nhw i lawr,nes eu bod yn methu codi;roeddwn i'n eu sathru nhw dan draed.
39 Ti roddodd y nerth i mi ymladd;ti wnaeth i'r gelyn blygu o'm blaen.
40 Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl.Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr.
41 Roedden nhw'n galw am help,ond doedd neb i'w hachub!Roedden nhw'n galw ar yr ARGLWYDD hyd yn oed!Ond wnaeth e ddim ateb.
42 Dyma fi'n eu malu nhw'n llwch i'w chwythu i ffwrdd gan y gwynt;a'u taflu i ffwrdd fel baw ar y strydoedd.
43 Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn.Gwnest fi'n bennaeth ar y gwledydd.Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhwyn derbyn fy awdurdod.
44 Maen nhw'n plygu wrth glywed amdana i –ie, estroniaid yn crynu o'm blaen!