41 Roedden nhw'n galw am help,ond doedd neb i'w hachub!Roedden nhw'n galw ar yr ARGLWYDD hyd yn oed!Ond wnaeth e ddim ateb.
42 Dyma fi'n eu malu nhw'n llwch i'w chwythu i ffwrdd gan y gwynt;a'u taflu i ffwrdd fel baw ar y strydoedd.
43 Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn.Gwnest fi'n bennaeth ar y gwledydd.Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhwyn derbyn fy awdurdod.
44 Maen nhw'n plygu wrth glywed amdana i –ie, estroniaid yn crynu o'm blaen!
45 Mae pobloedd estron wedi colli pob hyder,ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau.
46 Ydy, mae'r ARGLWYDD yn fyw!Bendith ar y graig sy'n fy amddiffyn i!Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu!
47 Fe ydy'r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i,a gwneud i bobloedd blygu o'm blaen.