47 Fe ydy'r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i,a gwneud i bobloedd blygu o'm blaen.
48 Fe ydy'r Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion,a'm cipio o afael y rhai sy'n fy nghasáu.Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar.
49 Felly, O ARGLWYDD,bydda i'n dy foli di o flaen y cenhedloeddac yn canu mawl i dy enw:
50 Mae'n rhoi buddugoliaeth i'w frenin –un fuddugoliaeth fawr ar ôl y llall!Mae'n aros yn ffyddlon i'w eneiniog –i Dafydd, ac i'w ddisgynyddion am byth.