5 Roedd rhaffau byd y meirw o'm cwmpas;a maglau marwolaeth o'm blaen.
6 Gelwais ar yr ARGLWYDD o ganol fy helynt,a gweiddi ar fy Nuw.Roedd yn ei deml, a clywodd fy llais;gwrandawodd arna i'n galw.
7 Yna dyma'r ddaear yn symud a crynu.Roedd sylfeini'r mynyddoedd yn crynuac yn ysgwyd am ei fod wedi digio.
8 Daeth mwg allan o'i ffroenau,a thân dinistriol o'i geg;roedd marwor yn tasgu ohono.
9 Agorodd yr awyr fel llenni a daeth i lawr.Roedd cwmwl trwchus dan ei draed.
10 Marchogai ar geriwbiaid yn hedfan,a codi ar adenydd y gwynt.
11 Gwisgodd dywyllwch fel gorchudd drosto –cymylau duon stormus;a gwnaeth gymylau trwchus yr awyryn ffau o'i gwmpas.