1 Mae'r nefoedd yn dangos ysblander Duw,a'r awyr yn dweud am grefftwaith ei ddwylo.
2 Mae'r neges yn mynd allan bob dydd;mae i'w weld yn amlwg bob nos!
3 Does dim llais go iawn, na geiriau,na dim i'w glywed yn llythrennol.
4 Ond mae pawb wedi clywed beth maen nhw'n ddweud;a'r neges wedi mynd i ben draw'r byd!Cododd babell i'r haul yn yr awyr.
5 Mae'n dod allan fel priodfab o'i ystafell;neu athletwr yn frwd i redeg ras.
6 Mae'n codi ar y gorwel,ac yn symud o un pen i'r llall.Does dim yn gallu cuddio rhag ei wres.
7 Mae dysgeidiaeth yr ARGLWYDD yn berffaith –mae'n rhoi bywyd newydd i mi!Mae rheolau yr ARGLWYDD yn glirac yn gwneud y person mwyaf cyffredin yn ddoeth.