1 O ARGLWYDD, mae'r brenin yn llawenam dy fod ti'n ei nerthu;mae'n gorfoleddu'n fawram dy fod yn rhoi'r fuddugoliaeth iddo!
2 Ti wedi rhoi iddo beth oedd e eisiau,wnest ti ddim gwrthod beth oedd e'n gofyn amdano. Saib
3 Ti'n ei fendithio â phopeth da,ac yn gosod coron o aur pur ar ei ben.
4 Gofynnodd i ti ei gadw'n fyw, a dyma ti'n rhoi bywyd iddo –bywyd hir a llinach brenhinol fydd yn aros.
5 Mae'n enwog am dy fod wedi rhoi'r fuddugoliaeth iddo.Ti wedi rhoi iddo ysblander ac urddas.