2 Ti wedi rhoi iddo beth oedd e eisiau,wnest ti ddim gwrthod beth oedd e'n gofyn amdano. Saib
3 Ti'n ei fendithio â phopeth da,ac yn gosod coron o aur pur ar ei ben.
4 Gofynnodd i ti ei gadw'n fyw, a dyma ti'n rhoi bywyd iddo –bywyd hir a llinach brenhinol fydd yn aros.
5 Mae'n enwog am dy fod wedi rhoi'r fuddugoliaeth iddo.Ti wedi rhoi iddo ysblander ac urddas.
6 Ti wedi rhoi bendithion fydd yn para am byth,a'r boddhad a'r llawenydd o fod yn dy gwmni.
7 Ydy, mae'r brenin yn trystio'r ARGLWYDD.Mae'n gwybod fod y Duw Goruchaf yn ffyddlon,felly fydd dim byd yn ei ysgwyd.
8 Byddi'n llwyddo i ddal dy holl elynion;byddi'n rhy gryf i'r rhai sy'n dy gasáu.