4 Gofynnodd i ti ei gadw'n fyw, a dyma ti'n rhoi bywyd iddo –bywyd hir a llinach brenhinol fydd yn aros.
5 Mae'n enwog am dy fod wedi rhoi'r fuddugoliaeth iddo.Ti wedi rhoi iddo ysblander ac urddas.
6 Ti wedi rhoi bendithion fydd yn para am byth,a'r boddhad a'r llawenydd o fod yn dy gwmni.
7 Ydy, mae'r brenin yn trystio'r ARGLWYDD.Mae'n gwybod fod y Duw Goruchaf yn ffyddlon,felly fydd dim byd yn ei ysgwyd.
8 Byddi'n llwyddo i ddal dy holl elynion;byddi'n rhy gryf i'r rhai sy'n dy gasáu.
9 Pan fyddi'n dod i'r golwgbyddi'n eu llosgi nhw mewn ffwrnais.Mae'r ARGLWYDD yn ddig,a bydd yn eu dinistrio nhw;bydd tân yn eu llosgi nhw.
10 Byddi'n cael gwared â'u disgynyddion o'r ddaear;byddan nhw'n diflannu o blith y ddynoliaeth.