1 Fy Nuw, fy Nuw,pam rwyt ti wedi troi dy gefn arna i?Dw i'n griddfan mewn poen,pam rwyt ti ddim yn fy achub i?
2 Fy Nuw,dw i'n galw arnat ti drwy'r dydd,ond dwyt ti ddim yn ateb.Dw i'n dal ati drwy'r nosheb orffwys o gwbl.
3 Ti ydy'r Duw Sanctaidd!Rwyt ti'n eistedd ar dy orsedd,ac yn derbyn mawl pobl Israel.
4 Ti oedd ein hynafiaid ni'n ei drystio.Roedden nhw'n dy drystio dia dyma ti'n eu hachub nhw.
5 Dyma nhw'n gweiddi arnat tia llwyddo i ddianc;Roedden nhw wedi dy drystio di,a chawson nhw mo'i siomi.