15 Mae fy egni wedi sychu fel potyn pridd.Mae fy nhafod wedi glynu i dop fy ngheg.Rwyt wedi fy rhoi i lwch marwolaeth.
16 Mae cŵn wedi casglu o'm cwmpas!Criw o fwlis yn cau amdana iac yn fy nal i lawr gerfydd fy nwylo a'm traed.
17 Dw i'n ddim byd ond swp o esgyrn,ac maen nhw'n syllu arna i a chwerthin.
18 Maen nhw'n rhannu fy nillad rhyngddyn nhw,ac yn gamblo am fy nghrys.
19 O ARGLWYDD, paid ti cadw draw!Ti sy'n rhoi nerth i mi! Brysia! Helpa fi!
20 Achub fi rhag y cleddyf!Achub fy mywyd o afael y cŵn!
21 Gad i mi ddianc oddi wrth y llew!Achub fi rhag cyrn yr ych gwyllt!Ateb fi!