18 Maen nhw'n rhannu fy nillad rhyngddyn nhw,ac yn gamblo am fy nghrys.
19 O ARGLWYDD, paid ti cadw draw!Ti sy'n rhoi nerth i mi! Brysia! Helpa fi!
20 Achub fi rhag y cleddyf!Achub fy mywyd o afael y cŵn!
21 Gad i mi ddianc oddi wrth y llew!Achub fi rhag cyrn yr ych gwyllt!Ateb fi!
22 Bydda i'n dweud wrth fy mrodyr sut un wyt ti;ac yn canu mawl i ti gyda'r rhai sy'n dy addoli.
23 Ie, chi sy'n addoli'r ARGLWYDD, canwch fawl iddo!Chi ddisgynyddion Jacob, anrhydeddwch e!Chi bobl Israel i gyd, safwch o'i flaen mewn rhyfeddod!
24 Wnaeth e ddim dirmygu na diystyru cri'r anghenus;Wnaeth e ddim troi ei gefn arno.Pan oedd yn gweiddi am help,gwrandawodd Duw.