21 Gad i mi ddianc oddi wrth y llew!Achub fi rhag cyrn yr ych gwyllt!Ateb fi!
22 Bydda i'n dweud wrth fy mrodyr sut un wyt ti;ac yn canu mawl i ti gyda'r rhai sy'n dy addoli.
23 Ie, chi sy'n addoli'r ARGLWYDD, canwch fawl iddo!Chi ddisgynyddion Jacob, anrhydeddwch e!Chi bobl Israel i gyd, safwch o'i flaen mewn rhyfeddod!
24 Wnaeth e ddim dirmygu na diystyru cri'r anghenus;Wnaeth e ddim troi ei gefn arno.Pan oedd yn gweiddi am help,gwrandawodd Duw.
25 Dyna pam dw i'n dy foli di yn y gynulleidfa fawr;ac yn cadw fy addewidion o flaen y rhai sy'n dy addoli.
26 Bydd yr anghenus yn bwyta ac yn cael digon!Bydd y rhai sy'n dilyn yr ARGLWYDD yn canu mawl iddo –Byddwch yn llawen bob amser!
27 Bydd pobl drwy'r byd i gydyn gwrando ac yn troi at yr ARGLWYDD.Bydd pobl y gwledydd i gyd yn ei addoli,