26 Bydd yr anghenus yn bwyta ac yn cael digon!Bydd y rhai sy'n dilyn yr ARGLWYDD yn canu mawl iddo –Byddwch yn llawen bob amser!
27 Bydd pobl drwy'r byd i gydyn gwrando ac yn troi at yr ARGLWYDD.Bydd pobl y gwledydd i gyd yn ei addoli,
28 am mai'r ARGLWYDD ydy'r Brenin!Fe sy'n teyrnasu dros y cenhedloedd.
29 Bydd pawb sy'n iach yn plygu i'w addoli;a phawb sydd ar fin marw – ar wely angau –yn plygu glin o'i flaen!
30-31 Bydd plant yn ei wasanaethu;a bydd enw'r ARGLWYDD yn cael ei gyhoeddii'r genhedlaeth sydd i ddod.Byddan nhw'n dweud am ei gyfiawnderwrth y rhai sydd ddim eto wedi eu geni!Ie, dweud beth mae e wedi ei wneud!