4 Ti oedd ein hynafiaid ni'n ei drystio.Roedden nhw'n dy drystio dia dyma ti'n eu hachub nhw.
5 Dyma nhw'n gweiddi arnat tia llwyddo i ddianc;Roedden nhw wedi dy drystio di,a chawson nhw mo'i siomi.
6 Dw i'n neb. Pryf ydw i, nid dyn!Dw i'n cael fy wfftio gan bobl, a'm dirmygu.
7 Dw i'n destun sbort i bawb.Maen nhw'n gwneud ystumiau arna i,ac yn ysgwyd eu pennau.
8 “Mae e wedi trystio'r ARGLWYDD;felly gadewch i'r ARGLWYDD ei achub,a'i ollwng e'n rhydd!Mae e mor hoff ohono!”
9 Ti ddaeth â fi allan o'r groth.Ti wnaeth i mi deimlo'n saff ar fron fy mam.
10 Dw i wedi dibynnu arnat ti o'r dechrau cyntaf.Ti ydy fy Nuw i ers i mi gael fy ngeni.