8 “Mae e wedi trystio'r ARGLWYDD;felly gadewch i'r ARGLWYDD ei achub,a'i ollwng e'n rhydd!Mae e mor hoff ohono!”
9 Ti ddaeth â fi allan o'r groth.Ti wnaeth i mi deimlo'n saff ar fron fy mam.
10 Dw i wedi dibynnu arnat ti o'r dechrau cyntaf.Ti ydy fy Nuw i ers i mi gael fy ngeni.
11 Paid cadw draw!Mae helyntion gerllawa does gen i neb i'm helpu.
12 Mae teirw o'm cwmpas ym mhobman.Mae teirw cryfion Bashan yn fy mygwth.
13 Maen nhw'n barod i'm llyncu i,fel llewod yn rhuo ac yn rhwygo ysglyfaeth.
14 Dw i bron marw!Mae fy esgyrn i gyd wedi dod o'u lle,ac mae fy nghalon yn wanfel cwyr yn toddi tu mewn i mi.