1 Yr ARGLWYDD piau'r ddaear a phopeth sydd ynddi;y byd, a phawb sy'n byw ynddo.
2 Mae wedi gosod ei sylfeini ar y moroedd,a'i sefydlu ar ffrydiau'r dyfnder.
3 Pwy sy'n cael dringo mynydd yr ARGLWYDD?Pwy sy'n cael sefyll yn ei deml sanctaidd? –
4 Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn a'i gymhellion yn bur;yr un sydd ddim yn twylloneu'n addo rhywbeth heb fwriadu ei gyflawni.