1 O ARGLWYDD, dw i'n troi atat ti mewn gweddi.
2 Fy Nuw, dw i'n dy drystio di; paid â'm siomi;paid gadael i'm gelynion gael hwyl ar fy mhen.
3 Does neb sy'n dy drystio di yn cael ei siomi.Y rhai sy'n twyllo fydd yn methu,nhw fydd yn cael eu siomi!
4 Dw i eisiau dy ddilyn di, ARGLWYDD;dysga dy ffyrdd i mi.
5 Arwain fi ar y ffordd iawn a dysga fi,achos ti ydy'r Duw sy'n fy achub i.Dw i'n dibynnu arnat ti bob amser.