10 Mae'r ARGLWYDD bob amser yn ffyddlon,ac mae'r rhai sy'n cadw amodau'r ymrwymiad wnaeth eyn gallu dibynnu'n llwyr arno.
11 Er mwyn dy enw da, O ARGLWYDD,maddau'r holl ddrwg dw i wedi ei wneud– mae yna gymaint ohono!
12 Mae'r ARGLWYDD yn dangos i'r rhai sy'n ffyddlon iddosut dylen nhw fyw.
13 Byddan nhw'n mwynhau bywyd,a bydd eu plant yn etifeddu'r tir.
14 Mae'r ARGLWYDD yn rhoi arweiniad i'w ddilynwyr ffyddlon;ac mae'n dysgu iddyn nhw oblygiadau'r ymrwymiad wnaeth e.
15 Dw i'n troi at yr ARGLWYDD am help bob amser,am mai fe sy'n fy ngollwng i'n rhydd o rwyd y gelyn.
16 Tyrd ata i, bydd yn garedig a helpa fi,dw i ar fy mhen fy hun, ac yn dioddef.