12 Mae'r ARGLWYDD yn dangos i'r rhai sy'n ffyddlon iddosut dylen nhw fyw.
13 Byddan nhw'n mwynhau bywyd,a bydd eu plant yn etifeddu'r tir.
14 Mae'r ARGLWYDD yn rhoi arweiniad i'w ddilynwyr ffyddlon;ac mae'n dysgu iddyn nhw oblygiadau'r ymrwymiad wnaeth e.
15 Dw i'n troi at yr ARGLWYDD am help bob amser,am mai fe sy'n fy ngollwng i'n rhydd o rwyd y gelyn.
16 Tyrd ata i, bydd yn garedig a helpa fi,dw i ar fy mhen fy hun, ac yn dioddef.
17 Achub fi o'r helbul dw i ynddo;gollwng fi'n rhydd o'r argyfwng yma.
18 Edrych arna i'n dioddef mewn poen!Maddau fy holl bechodau!