16 Tyrd ata i, bydd yn garedig a helpa fi,dw i ar fy mhen fy hun, ac yn dioddef.
17 Achub fi o'r helbul dw i ynddo;gollwng fi'n rhydd o'r argyfwng yma.
18 Edrych arna i'n dioddef mewn poen!Maddau fy holl bechodau!
19 Edrych gymaint o elynion sydd gen i!Maen nhw'n fy nghasáu i, ac am wneud niwed i mi!
20 Amddiffyn fi, ac achub fi!Paid gadael i mi gael fy siomi,achos dw i wedi troi atat ti am loches.
21 Amddiffyn fi, am fy mod i'n onest ac yn agored hefo ti;dw i'n dibynnu arnat ti, ARGLWYDD!
22 O Dduw, gollwng Israel yn rhyddo'i holl drafferthion!