3 Does neb sy'n dy drystio di yn cael ei siomi.Y rhai sy'n twyllo fydd yn methu,nhw fydd yn cael eu siomi!
4 Dw i eisiau dy ddilyn di, ARGLWYDD;dysga dy ffyrdd i mi.
5 Arwain fi ar y ffordd iawn a dysga fi,achos ti ydy'r Duw sy'n fy achub i.Dw i'n dibynnu arnat ti bob amser.
6 O ARGLWYDD, cofia dy fod yn Dduw trugarog a ffyddlon –un felly wyt ti wedi bod erioed!
7 Paid dal yn fy erbyn y pechodaua'r holl bethau wnes i o'i le pan oeddwn i'n ifanc.Bydd yn garedig ata i, ARGLWYDD;rwyt ti'n Dduw mor ffyddlon.
8 Mae'r ARGLWYDD yn dda ac yn hollol deg,felly mae e'n dangos i bechaduriaid sut dylen nhw fyw.
9 Mae'n dangos y ffordd iawn i'r rhai sy'n plygu iddoac yn eu dysgu nhw sut i fyw.