7 Paid dal yn fy erbyn y pechodaua'r holl bethau wnes i o'i le pan oeddwn i'n ifanc.Bydd yn garedig ata i, ARGLWYDD;rwyt ti'n Dduw mor ffyddlon.
8 Mae'r ARGLWYDD yn dda ac yn hollol deg,felly mae e'n dangos i bechaduriaid sut dylen nhw fyw.
9 Mae'n dangos y ffordd iawn i'r rhai sy'n plygu iddoac yn eu dysgu nhw sut i fyw.
10 Mae'r ARGLWYDD bob amser yn ffyddlon,ac mae'r rhai sy'n cadw amodau'r ymrwymiad wnaeth eyn gallu dibynnu'n llwyr arno.
11 Er mwyn dy enw da, O ARGLWYDD,maddau'r holl ddrwg dw i wedi ei wneud– mae yna gymaint ohono!
12 Mae'r ARGLWYDD yn dangos i'r rhai sy'n ffyddlon iddosut dylen nhw fyw.
13 Byddan nhw'n mwynhau bywyd,a bydd eu plant yn etifeddu'r tir.