8 Paid gadael i'r gelyn fy nal i;gad i mi ddianc i le agored.
9 Helpa fi, O ARGLWYDD,mae hi'n argyfwng arna i.Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder –fy nghorff i gyd i ddweud y gwir.
10 Dw i'n cael fy llethu gan boen;mae fy mlynyddoedd yn dod i ben mewn tuchan.Mae pechod wedi fy ngwneud i'n wan,ac mae fy esgyrn yn frau.
11 Mae'r holl elynion sydd gen iyn gwneud hwyl ar fy mhen.Mae fy ffrindiau yn arswydo;mae pobl yn cadw draw pan maen nhw'n fy ngweld i ar y stryd.
12 Maen nhw wedi anghofio amdana i, fel petawn i wedi marw!Dw i'n dda i ddim, fel jar sydd wedi torri.
13 Dw i'n clywed beth maen nhw'n ei sibrwd,a'r straeon ofnadwy sy'n dod o bob cyfeiriad.Maen nhw'n cynllwynio yn fy erbyn i;maen nhw eisiau fy lladd i.
14 Ond dw i'n dy drystio di, O ARGLWYDD.Dw i'n datgan yn glir, “Ti ydy fy Nuw i!”