1 Mae'r un sydd wedi cael maddeuant am ei wrthryfelwedi ei fendithio'n fawr,mae ei bechodau wedi eu symud o'r golwg am byth.
2 Mae'r un dydy'r ARGLWYDD ddim yn dal atii gyfri ei fai yn ei erbyn wedi ei fendithio'n fawr –yr un sydd heb dwyll yn agos i'w galon.
3 Pan oeddwn i'n cadw'n ddistaw am y peth,roedd fy esgyrn yn troi'n frauac roeddwn i'n tuchan mewn poen drwy'r dydd.
4 Roeddet ti'n fy mhoenydio i nos a dydd;doedd gen i ddim egni,fel pan mae'r gwres yn llethol yn yr haf. Saib