4 Roeddet ti'n fy mhoenydio i nos a dydd;doedd gen i ddim egni,fel pan mae'r gwres yn llethol yn yr haf. Saib
5 Ond wedyn dyma fi'n cyfaddef fy mhechod.Wnes i guddio dim byd.“Dw i'n mynd i gyffesu'r cwbl i'r ARGLWYDD” meddwn i,ac er fy mod i'n euog dyma ti'n maddau'r cwbl. Saib
6 Felly, pan mae rhywun sy'n dy ddilyn di'n ffyddlonyn darganfod ei fod wedi pechu,dylai weddïo arnat ti;rhag i'r dyfroedd peryglus ei ysgubo i ffwrdd.
7 Ti ydy'r lle saff i mi guddio!Ti'n fy amddiffyn i rhag trafferthion.Mae pobl o'm cwmpas yn dathlu'n llawenam dy fod ti wedi achub. Saib
8 Gadewch i mi ddangos y ffordd i chi,a'ch helpu chi i wybod sut i fyw.Gadewch i mi roi cyngor i chi, wyneb yn wyneb.
9 Peidiwch bod yn ystyfnig fel mulsy'n gwrthod bod yn ufudd,neu geffyl sydd angen ffrwyn i gadw rheolaeth arno.
10 Mae pobl ddrwg yn mynd i ddioddef yn fawr,ond mae'r ARGLWYDD yn hollol ffyddloni'r rhai sy'n ei drystio fe.