11 Dewch, blant, gwrandwch arna i.Dysga i chi beth mae parchu'r ARGLWYDD yn ei olygu.
12 Ydych chi eisiau mwynhau bywyd?Ydych chi eisiau byw yn hir a bod yn llwyddiannus?
13 Rhaid i chi reoli'ch tafod a stopio twyllo!
14 Troi cefn ar ddrwg a gwneud beth sy'n dda;a gwneud eich gorau i gael perthynas dda gyda phawb.
15 Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn,ac yn gwrando'n astud pan maen nhw'n galw arno.
16 Ond mae e yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni –bydd yn cael gwared â phob atgof ohonyn nhw o'r ddaear.
17 Pan mae'r rhai sy'n byw'n iawn yn gweiddi am help,mae'r ARGLWYDD yn gwrando,ac yn eu hachub nhw o'u holl drafferthion.