15 Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn,ac yn gwrando'n astud pan maen nhw'n galw arno.
16 Ond mae e yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni –bydd yn cael gwared â phob atgof ohonyn nhw o'r ddaear.
17 Pan mae'r rhai sy'n byw'n iawn yn gweiddi am help,mae'r ARGLWYDD yn gwrando,ac yn eu hachub nhw o'u holl drafferthion.
18 Mae'r ARGLWYDD yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau.Mae e'n achub y rhai sydd wedi anobeithio.
19 Mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn wynebu pob math o helyntion,ond bydd yr ARGLWYDD yn eu hachub nhw drwy'r cwbl!
20 Mae'n amddiffyn eu hesgyrn,fydd dim un yn cael ei dorri!
21 Mae pobl ddrwg yn cael eu dinistrio gan eu drygioni eu hunain.Bydd y rhai sy'n casáu pobl dduwiol yn cael eu cosbi.