19 Mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn wynebu pob math o helyntion,ond bydd yr ARGLWYDD yn eu hachub nhw drwy'r cwbl!
20 Mae'n amddiffyn eu hesgyrn,fydd dim un yn cael ei dorri!
21 Mae pobl ddrwg yn cael eu dinistrio gan eu drygioni eu hunain.Bydd y rhai sy'n casáu pobl dduwiol yn cael eu cosbi.
22 Ond mae'r rhai sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDDyn cael mynd yn rhydd!Fydd y rhai sy'n troi ato fe am loches ddim yn cael eu cosbi!