3 Dewch i ganmol yr ARGLWYDD gyda mi!Gadewch i ni ei foli gyda'n gilydd!
4 Ro'n i wedi troi at yr ARGLWYDD am help,ac atebodd fi.Achubodd fi o'm holl ofnau.
5 Mae'r rhai sy'n troi ato yn wên i gyd;does dim mymryn o gywilydd ar eu hwynebau.
6 Dyma i chi ddyn anghenus wnaeth alw arno,a dyma'r ARGLWYDD yn gwrandoac yn ei achub o'i holl drafferthion.
7 Mae angel yr ARGLWYDD fel byddinyn amddiffyn y rhai sy'n ei ddilyn yn ffyddlon,ac mae'n eu hachub nhw.
8 Profwch drosoch eich hunain mor dda ydy'r ARGLWYDD!Mae'r rhai sy'n troi ato am loches wedi eu bendithio'n fawr!
9 Arhoswch yn ffyddlon i'r ARGLWYDD, chi sydd wedi eich dewis ganddo,mae gan y rhai sy'n ffyddlon iddo bopeth sydd arnyn nhw ei angen!