9 Arhoswch yn ffyddlon i'r ARGLWYDD, chi sydd wedi eich dewis ganddo,mae gan y rhai sy'n ffyddlon iddo bopeth sydd arnyn nhw ei angen!
10 Mae llewod ifanc yn gallu bod heb fwyd ac yn llwgu weithiau,ond fydd dim angen ar y rhai hynny sy'n troi at yr ARGLWYDD am help.
11 Dewch, blant, gwrandwch arna i.Dysga i chi beth mae parchu'r ARGLWYDD yn ei olygu.
12 Ydych chi eisiau mwynhau bywyd?Ydych chi eisiau byw yn hir a bod yn llwyddiannus?
13 Rhaid i chi reoli'ch tafod a stopio twyllo!
14 Troi cefn ar ddrwg a gwneud beth sy'n dda;a gwneud eich gorau i gael perthynas dda gyda phawb.
15 Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn,ac yn gwrando'n astud pan maen nhw'n galw arno.