14 Roeddwn i'n cerdded o gwmpas yn galarufel y byddwn i'n galaru dros ffrind neu frawd.Roeddwn i'n dal fy mhen yn isel fel un yn galaru ar ôl ei fam.
15 Ond roedden nhw wrth eu boddau pan wnes i faglu!Dyma nhw'n dod at ei gilydd yn fy erbyn – wn i ddim pam –roedden nhw'n llarpio fel anifeiliaid gwylltion.
16 Dynion annuwiol yn gwawdio am sbort,ac yn ceisio dangos eu dannedd!
17 O ARGLWYDD, am faint wyt ti'n mynd i sefyll yna'n gwylio'r cwbl?Achub fi wrth iddyn nhw ymosod arna i;cadw fi'n saff oddi wrth y llewod ifanc!
18 Wedyn bydda i'n diolch i ti yn y gynulleidfa fawr!Bydda i'n dy foli di o flaen tyrfa enfawr o bobl!
19 Paid gadael i'r rhai sy'n elynion heb reswm lawenhau!Nac i'r rhai sy'n fy nghasáu i heb achos wincio ar ei gilydd.
20 Dŷn nhw ddim am wneud lles i neb,dim ond cynllwynio yn eu herbyn,a thwyllo pobl ddiniwed.