18 Wedyn bydda i'n diolch i ti yn y gynulleidfa fawr!Bydda i'n dy foli di o flaen tyrfa enfawr o bobl!
19 Paid gadael i'r rhai sy'n elynion heb reswm lawenhau!Nac i'r rhai sy'n fy nghasáu i heb achos wincio ar ei gilydd.
20 Dŷn nhw ddim am wneud lles i neb,dim ond cynllwynio yn eu herbyn,a thwyllo pobl ddiniwed.
21 A dyma nhw'n barod i'm llyncu innau,“Aha! dŷn ni wedi dy ddal di!” medden nhw.
22 O ARGLWYDD, rwyt ti wedi gweld y cwbl!Felly paid cadw draw! Tyrd yma!
23 Symud! Deffra! Amddiffyn fi!Fy Nuw a'm Harglwydd, ymladd drosta i!
24 Achub fy ngham, O ARGLWYDD fy Nuw,am dy fod ti'n gyfiawn.Paid gadael iddyn nhw ddal ati i wneud sbort.