2 Coda dy darian fach a'r un fawr,a tyrd yma i'm helpu i!
3 Defnyddia dy waywffon a dy bicellyn erbyn y rhai sydd ar fy ôl i.Gad i mi dy glywed di'n dweud, “Gwna i dy achub di!”
4 Rhwystra'r rhai sydd am fy lladd i;coda gywilydd arnyn nhw!Gwna i'r rhai sydd eisiau gwneud niwed i midroi'n ôl mewn dychryn.
5 Gwna nhw fel us yn cael ei chwythu i ffwrdd gan y gwyntwrth i angel yr ARGLWYDD ymosod arnyn nhw!
6 Pan fydd angel yr ARGLWYDD yn mynd ar eu holau,gwna eu llwybr nhw yn dywyll ac yn llithrig!
7 Roedden nhw wedi gosod rhwyd i'm dal i,a hynny am ddim rheswm!Roedden nhw wedi cloddio twll i mi ddisgyn iddo.
8 Gwna i drychineb annisgwyl ddod ar eu traws nhw!Gad iddyn nhw gael eu dal yn eu rhwyd eu hunain!Gwna iddyn nhw ddisgyn i lawr i dwll dinistr!