21 A dyma nhw'n barod i'm llyncu innau,“Aha! dŷn ni wedi dy ddal di!” medden nhw.
22 O ARGLWYDD, rwyt ti wedi gweld y cwbl!Felly paid cadw draw! Tyrd yma!
23 Symud! Deffra! Amddiffyn fi!Fy Nuw a'm Harglwydd, ymladd drosta i!
24 Achub fy ngham, O ARGLWYDD fy Nuw,am dy fod ti'n gyfiawn.Paid gadael iddyn nhw ddal ati i wneud sbort.
25 Paid gadael iddyn nhw feddwl,“Aha, dyma'n union beth roedden ni eisiau!”Paid gadael iddyn nhw ddweud,“Dŷn ni wedi ei ddinistrio!”
26 Rhwystra'r rhai sydd am wneud niwed i mi;coda gywilydd arnyn nhw!Cymer y rhai sydd wedi bod yn gwawdio mor falcha gwisga nhw gyda chywilydd ac embaras!
27 Ond gad i'r rhai sydd am i ti achub fy nghamweiddi'n llawen!Gad iddyn nhw allu dweud bob amser,“Yr ARGLWYDD sy'n rheoli!Mae am weld ei was yn llwyddo.”