22 O ARGLWYDD, rwyt ti wedi gweld y cwbl!Felly paid cadw draw! Tyrd yma!
23 Symud! Deffra! Amddiffyn fi!Fy Nuw a'm Harglwydd, ymladd drosta i!
24 Achub fy ngham, O ARGLWYDD fy Nuw,am dy fod ti'n gyfiawn.Paid gadael iddyn nhw ddal ati i wneud sbort.
25 Paid gadael iddyn nhw feddwl,“Aha, dyma'n union beth roedden ni eisiau!”Paid gadael iddyn nhw ddweud,“Dŷn ni wedi ei ddinistrio!”
26 Rhwystra'r rhai sydd am wneud niwed i mi;coda gywilydd arnyn nhw!Cymer y rhai sydd wedi bod yn gwawdio mor falcha gwisga nhw gyda chywilydd ac embaras!
27 Ond gad i'r rhai sydd am i ti achub fy nghamweiddi'n llawen!Gad iddyn nhw allu dweud bob amser,“Yr ARGLWYDD sy'n rheoli!Mae am weld ei was yn llwyddo.”
28 Wedyn bydda i'n dweud wrth bawb dy fod ti'n gwneud beth sy'n iawn.Bydda i'n canu mawl i ti drwy'r dydd.