7 Roedden nhw wedi gosod rhwyd i'm dal i,a hynny am ddim rheswm!Roedden nhw wedi cloddio twll i mi ddisgyn iddo.
8 Gwna i drychineb annisgwyl ddod ar eu traws nhw!Gad iddyn nhw gael eu dal yn eu rhwyd eu hunain!Gwna iddyn nhw ddisgyn i lawr i dwll dinistr!
9 Bydda i, wedyn, yn gallu moli'r ARGLWYDD,a llawenhau am ei fod wedi fy achub i!
10 Bydd y cwbl ohona i'n datgan,“Pwy sy'n debyg i ti, ARGLWYDD?Ti'n achub y gwan rhag un sy'n rhy gryf iddo –achub y gwan a'r diamddiffynrhag yr un sydd am ddwyn oddi arno.”
11 Mae tystion celwyddog yn codiac yn fy nghyhuddo i ar gam.
12 Maen nhw'n talu drwg i mi am yr holl ddaioni wnes i!Maen nhw eisiau gweld diwedd arna i.
13 Pan oedden nhw'n sâl roeddwn i'n gwisgo sachliain,ac yn mynd heb fwyd yn fwriadol.Roeddwn i'n gweddïo drostyn nhw yn ddi-baid.