1 Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo;paid bod yn genfigennus ohonyn nhw.
2 Byddan nhw'n gwywo'n ddigon sydyn, fel glaswellt,ac yn diflannu fel egin gwan.
3 Trystia'r ARGLWYDD a gwna beth sy'n dda,Setla i lawr yn y tir a mwynhau ei ffyddlondeb.
4 Ceisia ffafr yr ARGLWYDD bob amser,a bydd e'n rhoi i ti bopeth wyt ti eisiau.