10 Fydd y rhai drwg ddim i'w gweld yn unman mewn ychydig!Byddi'n edrych amdanyn nhw, ond byddan nhw wedi mynd.
11 Ond bydd y rhai sy'n cael eu cam-drin yn meddiannu'r tir,ac yn cael mwynhau heddwch a llwyddiant.
12 Mae'r rhai drwg yn cynllwynio yn erbyn y rhai sy'n byw yn iawn,ac yn ysgyrnygu eu dannedd fel anifeiliaid gwylltion.
13 Ond mae'r ARGLWYDD yn chwerthin ar eu pennau!Mae e'n gwybod fod eu tro nhw'n dod!
14 Mae'r rhai drwg yn tynnu eu cleddyfau, ac yn plygu eu bwâu,i daro i lawr y rhai sy'n cael eu gorthrymu ac sydd mewn angen,ac i ladd y rhai sy'n byw'n gywir.
15 Ond byddan nhw'n cael eu trywanu gan eu cleddyfau eu hunain,a bydd eu bwâu yn cael eu torri!
16 Mae'r ychydig sydd gan berson sy'n byw yn iawnyn well na'r holl gyfoeth sydd gan y rhai drwg.