15 Ond byddan nhw'n cael eu trywanu gan eu cleddyfau eu hunain,a bydd eu bwâu yn cael eu torri!
16 Mae'r ychydig sydd gan berson sy'n byw yn iawnyn well na'r holl gyfoeth sydd gan y rhai drwg.
17 Bydd pobl ddrwg yn colli eu grym,ond mae'r ARGLWYDD yn cynnal y rhai sy'n byw yn iawn.
18 Mae'r ARGLWYDD yn gofalu amdanyn nhw bob dydd;mae ganddyn nhw etifeddiaeth fydd yn para am byth.
19 Fydd dim cywilydd arnyn nhw pan mae'n ddyddiau anodd;pan fydd newyn bydd ganddyn nhw ddigon i'w fwyta.
20 Ond bydd y rhai drwg yn marw.Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu difa,fel gwellt yn cael ei losgi mewn ffwrn.
21 Mae pobl ddrwg yn benthyg heb dalu'r ddyled yn ôl;ond mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn hael ac yn dal ati i roi.