21 Mae pobl ddrwg yn benthyg heb dalu'r ddyled yn ôl;ond mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn hael ac yn dal ati i roi.
22 Bydd y bobl mae Duw'n eu bendithio yn meddiannu'r tir,ond y rhai mae'n eu melltithio yn cael eu gyrru i ffwrdd.
23 Mae'r ARGLWYDD yn sicrhau llwyddiantyr un sy'n byw i'w blesio.
24 Bydd yn baglu weithiau, ond fydd e ddim yn syrthio ar ei wyneb,achos mae'r ARGLWYDD yn gafael yn ei law.
25 Roeddwn i'n ifanc ar un adeg, ond bellach dw i mewn oed.Dw i erioed wedi gweld rhywun sy'n byw yn iawn yn cael ei siomi gan Dduw,na'i blant yn gorfod chwilio am fwyd.
26 Mae bob amser yn hael ac yn benthyg i eraill,ac mae ei blant yn cael eu bendithio.
27 Tro dy gefn ar ddrwg a gwna beth sy'n dda,a byddi'n saff am byth.